Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diwrnodau Darganfod a Sesiynau Ffitrwydd Tân

Diwrnodau Darganfod a Sesiynau Ffitrwydd Tân

 

Dysgwch fwy yn un o'n 'Diwrnodau Darganfod' a’n

'Sesiynau Ffitrwydd Tân'

 

Ymunwch â'n Tîm!

Ein nod yw recriwtio gweithlu sy'n adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, ac yn ei dro mae hyn yn helpu i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i bobl Gogledd Cymru.

Ydych chi wedi bod yn meddwl am ddod yn ddiffoddwr tân ers tro? Neu ydych chi eisiau dysgu mwy i weld a allai hyn fod yn addas i chi?

Fel rhan o’n hymgyrch recriwtio Diffoddwyr Tân Llawn Amser sydd i ddod yn fuan, rydym yn cynnal nifer o 'Ddiwrnodau Darganfod' a 'Sesiynau Ffitrwydd Tân' ym mis Mehefin a Gorffennaf sy'n ffordd wych o'ch helpu i wneud penderfyniad cyn gwneud cais.

Pwrpas ein ‘Diwrnodau Darganfod’ yw codi ymwybyddiaeth ac annog aelodau o’r gymuned i weld a oes gennych yr hyn sydd ei angen i ymuno â’n gwasanaeth tân ac achub, tra bod ein sesiynau ‘Ffitrwydd Tân’ yn canolbwyntio ar ddeall y gofynion corfforol a'r meini prawf dethol corfforol.

 

Cymryd Rhan

Diwrnodau Darganfod

Dewch draw i un o'n Diwrnodau Darganfod mewn gorsaf dân yn eich ardal chi.

Mae'r rhain yn ddigwyddiadau cyfeillgar i'r rhai sydd â diddordeb mewn ymuno â'n Gwasanaeth er mwyn rhoi cynnig ar wahanol agweddau ar y swydd.

Dewch i gwrdd â rhai o’n staff, gan gynnwys aelodau o’r timau recriwtio a hyfforddi, a dysgu mwy am y mathau o gyfleoedd sydd ar gael a’r hyn rydym yn ei ddarparu i’n gweithwyr.

Gallwch ddysgu am y gwahanol fathau o rolau diffoddwyr tân yn ogystal ag am y broses recriwtio a dethol, rhoi cynnig ar y cit diffoddwr tân a chael profiad ymarferol o’r gofynion corfforol a’r safonau ffitrwydd.

Ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r hyn sydd ei angen?

Byddwn yn cynnal Diwrnodau Darganfod mewn amrywiaeth o leoliadau yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf – dilynwch y ddolen hon a llenwch y ffurflen gyda'ch manylion.

Yna, byddwn yn cysylltu â chi efo manylion am y Diwrnodau Darganfod.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch ymunwchantim@tangogleddcymru.llyw.cymru

Dim ond ychydig o lefydd sydd ar gael ym mhob sesiwn ac mae’n nhw’n amodol ar ofynion felly mae archebu lle yn hanfodol os ydych chi’n dymuno mynychu.

 

Digwyddiadau Ffitrwydd Tân

Mae'r sesiynau hyn yn helpu i sicrhau bod y rhai sydd am ymuno â'n tîm yn addas i fodloni'r meini prawf corfforol ac yn gallu ffynnu mewn sesiynau hyfforddiant i ddiffoddwyr tân.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa fel diffoddwr tân ond ddim yn siŵr am ofynion corfforol y rôl, dilynwch y ddolen hon a llenwch y ffurflen gyda'ch manylion.

Yna, byddwn yn cysylltu â chi manylion am y Sesiynau Ffitrwydd Tân.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch ymunwchantim@tangogleddcymru.llyw.cymru

 

Mae’r lleoedd yn gyfyngedig ym mhob lleoliad ac yn amodol ar fodloni gofynion.

Mae archebu lle yn hanfodol i fynychu'r digwyddiadau hyn. 

Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys asesiadau a hyfforddiant yn seiliedig ar ymarfer corff felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo dillad ymarfer corff priodol. Bydd pawb sy'n bresennol yn cael pecyn ffitrwydd i barhau â'u datblygiad corfforol.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen