Ymgyrch recriwtio diffoddwyr tân llawn amser wedi’i lansio
PostiwydYdych chi erioed wedi ystyried swydd fel Diffoddwr Tân Llawn Amser?
Ymgyrch recriwtio wedi’i lansio – ymunwch â’n tîm!
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn paratoi i agor ffenestr recriwtio ar gyfer diffoddwyr tân llawn amser.
Bydd cofrestru ar gyfer ceisiadau ar-lein yn agor am hanner dydd Dydd Mercher 17 Gorffennaf ac yn cau am hanner dydd Dydd Llun 22 Gorffennaf.
Dywedodd Mike Owen, Rheolwr Ardal Ymateb: "Wrth baratoi ar gyfer yr ymgyrch, rydyn ni'n cynnal digwyddiadau 'Diwrnodau Darganfod’ a ‘Ffitrwydd Tân - gallwch ddarganfod mwy fan hyn Diwrnodau Darganfod a Sesiynau Ffitrwydd Tân - Recriwtio - Amdanom Ni - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (gov.wales) Mae lleoedd yn gyfyngedig ac mae galw mawr amdanynt, felly archebwch yn gynnar!
“Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth ar yr hyn sydd ei angen i fod yn ddiffoddwr tân wrth i'r dyddiad agor agosáu – gan gynnwys sesiwn holi ac ateb fyw ar Facebook Dydd Mawrth, 16 Gorffennaf am 6:30y.h.
“Yn y cyfamser, gallwch ddarganfod mwy am rôl diffoddwr tân ar ein gwefan yma
“Ein nod yw recriwtio gweithlu sy'n adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, sydd yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i bobl Gogledd Cymru.
“Credwn nad oes y fath beth â diffoddwr tân arferol ac rydym yn annog pobl o bob cefndir i roi cais i mewn.
“Mae diogelu ein cymunedau wrth wraidd popeth a wnawn. Ar yr un pryd, rydym yn gwerthfawrogi ein pobl – byddwn yn eich cefnogi i gyrraedd eich potensial llawn, beth bynnag eich cefndir.
“Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth ychwanegol. Mae gan ein gwefan hefyd gyfoeth o wybodaeth i ymgeiswyr am yr hyn sydd ei angen i ddod yn ddiffoddwr tân llawn amser."
Pan yn fyw, fe fydd y porth cofrestru ar gael ar y tudalen yma.