Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Penodi arbenigwr i gynnal adolygiad diwylliannol annibynnol

Postiwyd

Mae Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru wedi mynd ati ar y cyd i benodi Crest Advisory i hwyluso adolygiad diwylliannol annibynnol.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn, ym mis Mawrth, gynnig gan y gwasanaethau tân ac achub i adolygu’r modd y maen nhw'n symud ymlaen ar eu teithiau diwylliannol - a hynny’n sail i ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar y pryd, Hannah Blythyn AS.

Mae'r ddau wasanaeth tân ac achub yn cydnabod pwysigrwydd meithrin amgylchedd cadarnhaol a chefnogol yn y gweithle, a'r angen am sicrwydd cyhoeddus yn hyn o beth.

Bydd Crest Advisory, arbenigwyr mewn safonau, perfformiad a diwylliant sefydliadol, yn dechrau'r gwaith hwn ym mis Gorffennaf, gan ddilyn cylch gorchwyl sy’n seiliedig ar ddatganiad y Dirprwy Weinidog. Bydd yr adolygiad yn cyhoeddi adroddiad terfynol, gan wneud asesiad o gynnydd diwylliant yn y gweithle a nodi cyfleoedd i wella.

Dywedodd Prif Swyddog Tân Gogledd Cymru, Dawn Docx: "Fe wnaethom ddechrau ar daith ddiwylliannol yn 2021 gydag Arolwg Staff Teulu Tân cynhwysfawr wedi'i gomisiynu gan gwmni annibynnol, a chyda cynlluniau gweithredu dygn a diweddariadau cynnydd rheolaidd wedi hynny. Mae'r Gwasanaeth wedi gweld newidiadau cadarnhaol ers hynny, ac mae'r gwaith hwn yn parhau yn dilyn ein harolwg staff diweddaraf a gynhaliwyd yn hydref 2023.

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch a lles ein cymunedau a'n gweithlu ac yn cydnabod pwysigrwydd sicrwydd allanol, craffu a herio yn ein cynnydd parhaus ar ein taith ddiwylliannol.

"Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno unrhyw argymhellion sy'n deillio o'r adolygiad diwylliannol mewn modd tryloyw, cynhwysol ac effeithiol.”

Dywedodd Prif Swyddog Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Roger Thomas: “Rydym hefyd wedi cynnal archwiliad diwylliannol cadarn trwy gwmni allanol, ac o ganlyniad, trwy ffurfio Bwrdd a Gweithgor Diwylliant a Chynhwysiant, mae cynllun gweithredu i wneud gwelliannau eang ar y gweill, proses sydd wedi'i chroesawu gan Lywodraeth Cymru.

"Rydym yn deall yr angen am ddilysu a mewnbwn allanol i sicrhau ein bod yn parhau i fod ar y trywydd cywir.

"Yn unol â'n hymrwymiad i welliant parhaus, mae’r naill a’r llall ohonom yn anelu at wella ein diwylliant a'n gweithrediadau sefydliadol er budd ein cymunedau a'n staff ac edrychwn ymlaen at yr effaith gadarnhaol y bydd yr ymdrechion hyn yn ei chael ar ein sefydliadau."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, Julie James: “Mae pawb yn haeddu teimlo’n ddiogel yn eu gweithle ac rwy’n croesawu’r adolygiadau diwylliannol annibynnol hyn a fydd yn helpu i roi sicrwydd pwysig am ddiwylliant y gweithle a lles staff yng Ngwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru. Byddwn yn ystyried canfyddiadau’r adroddiadau’n ofalus.”

Bydd yr adolygiad yn ceisio ymgysylltu'n agored ac yn llawn ag aelodau presennol a chyn-aelodau o Wasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru. Bydd Crest Advisory yn casglu barn a phrofiadau gan staff presennol a chyn-aelodau staff drwy gynnal arolwg, cyfweliadau un-i-un a grwpiau ffocws ar draws y gwasanaethau tân ac achub.

Bydd gwybodaeth bellach am sut i gymryd rhan yng ngwaith y tîm adolygu ar gael cyn bo hir.

Y bwriad yw y bydd yr adroddiad terfynol, ynghyd ag unrhyw feysydd i'w gwella a nodwyd, yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2025 a’i gyflwyno i'r ddau Awdurdod Tân ac Achub a Llywodraeth Cymru, fel tystiolaeth bellach o sicrwydd annibynnol.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen