Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diweddariad: Tân ffatri ar Ffordd Dinbych, Yr Wyddgrug

Postiwyd

Mae'r ymateb aml-asiantaeth i'r tân mewn ffatri ar Ffordd Dinbych, Yr Wyddgrug yn parhau.

Mae diffoddwyr tân yn parhau i fod yn y fan a'r lle wrth i'r tân mewn ffatri ar Ffordd Dinbych, Yr Wyddgrug, barhau â'r gweithgareddau dros nos.

Dywedodd Mike Plant o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Oherwydd bod mesurau rheoli diffodd tân yn parhau ar y safle, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori nad oes angen cadw ffenestri a drysau ar gau bellach.

“Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau ar y safle fel rhan o’r ymgyrch barhaus a byddant yn parhau i fonitro’r cyrsiau dŵr lleol a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol i liniaru unrhyw effeithiau.

“Fel rhagofal, maen nhw’n gofyn i bobl beidio â mynd ger yr Afon Alun a hefyd i gadw anifeiliaid draw o’r dŵr. Gofynnir i bobl hefyd gadw draw o'r man caeedig wrth i ddiffodd tân barhau ar y safle.”

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Swyddogion Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gefnogi’r gwasanaethau brys drwy ddarparu cyngor i helpu i leihau’r effaith ar y gymuned a’r amgylchedd.

Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynorthwyo’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyda’u hymchwiliad.

Bydd y ffyrdd o amgylch y safle yn parhau ar gau am o leiaf 24 awr arall.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen