Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân yn Llanddulas yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg a diogelwch trydanol

Postiwyd

 

Mae Swyddogion Tân yn atgoffa trigolion am bwysigrwydd larymau mwg a pheryglon tanau trydanol yn dilyn tân mewn eiddo yn Llanddulas, ger Abergele ddoe (Dydd Llun 1af Hydref).

Anfonwyd criw o Abergele, dau griw o Fae Colwyn a chriw o’r Rhyl i’r eiddo ar Ffordd Llindir, Llanddulas, Abergele am 11.17 o’r gloch.

Cychwynnodd y tân yn y garej/ystafell haul a lledaenodd i’r tŷ, gan achosi difrod mwg sylweddol i’r eiddo.

Credir ei fod yn dân trydanol. Fe achosodd ddifrod tân 95% i’r ystafell haul a’r garej, a difrod mwg 90% i lawr gwaelod a llawr cyntaf y tŷ.

Nid oedd larymau mwg gweithredol yn yr eiddo.

Meddai Mark Kassab o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “ Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar o dân yn eich cartref – gan roi cyfle i chi fynd allan, a’ch galluogi i helpu i atal lledaeniad y tân.

"Roedd un preswylydd yn yr eiddo ar adeg y tân, yn ffodus iawn llwyddodd i ddianc yn ddianaf, er bod ei lwybr dianc yn llawn mwg erbyn iddo ddod yn ymwybodol o’r tân.

“Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig ydi gosod larymau mwg gweithredol  a’u profi’n rheolaidd.

“Mae’r tân yma’n dangos peryglon tanau trydanol – gallant ddigwydd unrhyw bryd yn unrhyw le. Ein cyngor ydi byddwch mor barod  â phosibl rhag tân, drwy sicrhau bod gennych larymau mwg gweithredol yn eich cartref a sicrhau bod gennych lwybrau dianc clir er mwyn eich galluogi chi a’ch teulu i fynd allan o’ch cartref mor gyflym â phosib.

"Dyma gamau syml y gallwch chi eu cymryd i’ch helpu i atal tân trydanol yn eich cartref. Maent yn cynnwys:


- PEIDIWCH â gorlwytho socedi
- GWIRIWCH wifrau yn rheolaidd rhag ofn eu bod wedi wisgo neu dreulio

- TYNNWCH blygiau cyfarpar pan nad ydych yn eu defnyddio
- CADWCH gyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da

- DATODWCH lidiau estyn yn llawn cyn eu defnyddio.

 

“Pam na rowch chi gynnig ar ein cyfrifiannell ‘ampau’ ar ein gwefan ac ar ein tudalen Facebook – ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk – mae’n rhoi gwybod i chi os ydych yn gorlwytho socedi ac yn eich helpu i gadw’n ddiogel rhag tân trydanol.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen