Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio gêm addysgol arloesol i addysgu am ddiogelwch tân

Postiwyd

Mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru wedi bod yn gweithio ar y cyd gyda Matmi, cwmni stiwdio digidol, i gynhyrchu adnoddau addysgol newydd i ddisgyblon ac athrawon a fydd yn cael eu defnyddio mewn ysgolion yn genedlaethol o’r wythnos yma ymlaen.

Ymunodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub canolbarth a Gorllewin Cymru i gynhyrchu ffordd effeithiol a difyrrus o addysgu pobl ifanc yng Nghymru.

Mae Tregwreichion yn dref lle gall pobl ifanc chwarae gemau a dysgu am ddiogelwch. Yn y dref fe allant ddysgu am bob math o bynciau megis diogelwch ffordd, dŵr ac, wrth gwrs, tân.

Wrth siarad ar ran y tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru dyma oedd gan, Kevin Roberts, Cadeirydd y Grŵp Plant a Phobl Ifanc Cymru gyfan, i’w ddweud: “Fe weithiom gyda Matmi, stiwdio ddigidol a gwasanaeth ymgynghori, i gynhyrchu ein fersiwn ni o Dregwreichion yma yng Nghymru. Mae’n dref ryngweithiol sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Cafodd Tregwreichion ei greu yn wreiddiol gan Wasanaeth Tân ac Achub Swydd Gaer ond mae wedi datblygu dros y blynyddoedd ac yma yng Nghymru mae wedi cael ei ddatblygu ymhellach i fod ar gael yn Gymraeg. 

“Ei ddiben ydi helpu i addysgu plant mewn ffordd ddifyrrus, ond diogel – pa un ai a ydynt yn yr ysgol neu adref. Gan fod technoleg mor boblogaidd ymysg pobl ifanc, roeddem ni’n teimlo mai dyma’r ffordd berffaith o ddal eu sylw.

Wrth ymweld â Thregwreichion caiff y bobl ifanc gyfle i gymryd rhan mewn cwisiau, dod o hyd i beryglon, gwisgo diffoddwr tân a dysgu am y gwahanol offer, yn ogystal â gwylio fideos a chwarae gemau addysgol ynglŷn â diogelwch dŵr, ffordd a thân.

I chwarae’r safle rhyngweithiol, Tregwreichion, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk, www.tancgc.gov.uk neu www.decymru-tan.gov.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen