Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Recriwtio Diffoddwyr Tân Rhan Amser - Nid oes y fath beth â Diffoddwr Tân ‘nodweddiadol’

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn parhau i alw ar gymunedau lleol am gymorth wrth gyflenwi model Diffodd Tân System Dyletswyddau Rhan Amser (RDS) ar draws y rhanbarth.

 

Er mwyn darparu gwasanaeth tân ac achub cost-effeithiol, ac eto’n ddiogel a modern yng Ngogledd Cymru, mae rhyw dwy ran o dair o Ddiffoddwyr Tân gweithredol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhai RDS.

 

Mae Uwch Swyddog Recriwtio Nicola Jones yn esbonio: “Mae Diffoddwyr Tân RDS neu ‘ar alwad’ yn bobl bob dydd sy’n rhoi o’u hamser sbâr i wneud gwaith hynod. Nid oes y fath beth â ‘Diffoddwr tân nodweddiadol’; mae ein diffoddwyr tân yn dod o amrywiol gefndiroedd megis rhieni sy’n aros yn y cartref, gweithwyr ffatri, gweithwyr swyddfa, ffermwyr, therapyddion harddwch a gweithwyr meddygol proffesiynol, i enwi ond rhai. Mae Diffoddwyr Tân RDS yn aml yn cael eu cefnogi gan gyflogwyr sy’n cefnogi’r gymuned a fydd, lle bo modd, yn eu rhyddhau o’r gwaith ar ddyddiau ac amserau a drefnwyd ymlaen llaw i fynychu galwadau argyfwng pan fo angen. 

 

“Mae’r holl ddiffoddwyr tân yn cael eu hyfforddi i safon uchel eithriadol er mwyn ymateb i alwadau argyfwng, achub bywydau ac eiddo, a rhwystro argyfyngau trwy ddarparu gwybodaeth diogelwch, cyngor a chymorth i drigolion, ymwelwyr a busnesau ledled Gogledd Cymru."

 

Os ydych dros 18 oed ac yn byw neu’n gweithio o fewn 5 munud i orsaf dân yng Ngogledd Cymru, ac os ydych yn teimlo bod gennych y gallu i gymryd rôl gorfforol a meddyliol ymestynnol Diffoddwr Tân RDS, rôl sydd hefyd yn un gwerth chweil, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gofyn i chi gofrestru eich diddordeb gyda nhw arlein yn www.nwales-fireservice.org.uk.   

 

Os ydych yn gyflogwr a hoffai gefnogi’r Gwasanaeth a’ch cymuned leol trwy ryddhau staff i ddod yn Ddiffoddwyr Tân RDS, ffoniwch 01745 535281 i gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut gallai Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wella sgiliau eich staff gyda sgiliau penodol a throsglwyddadwy, sydd o fudd i bawb.

 

Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Gweithrediadau Stuart Millington “Mae Diffoddwyr Tân RDS neu Ar Alwad yn darparu gwasanaeth hanfodol ar gyfer tanau ac argyfyngau yn eu cymunedau 24 ar y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae rhai Diffoddwyr Tân yn darparu gwasanaeth o’u cartref, eraill o’r gwaith a rhai o’r ddau, a gall hyn fod dros amserau amrywiol y dydd drwy gydol yr wythnos ac ar benwythnosau. Mae’r Gwasanaeth yn arbennig o awyddus i glywed gan ddarpar weithwyr a chyflogwyr darpar weithwyr mewn cymunedau gwledig lle mae recriwtio’n fwy heriol oherwydd nifer is yr ymgeiswyr sy’n byw o fewn amser ymateb derbyniol. Mae’r tywydd poeth yn ddiweddar a arweiniodd at gynnydd mewn tanau gwyllt a galwadau argyfwng wedi rhoi mwy o bwysau ar y Gwasanaeth, ond mae ymrwymiad a gwaith caled ein Diffoddwyr Tân i gyd, a chymorth y cyflogwyr wrth ryddhau staff i ymgymryd â dyletswyddau diffodd Tân RDS wedi cael effaith gadarnhaol ac mae’n ein hatgoffa o ba mor bwysig a gwerthfawr yw rôl Diffoddwr Tân RDS ar draws y rhanbarth.”

 

“Mae’r rhestr o orsafoedd tân sy’n recriwtio yn newid yn ôl y blaenoriaethau ar y pryd, ond mae recriwtio ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar y gorsafoedd canlynol:   Aderdyfi, Amlwch, Abermaw, Biwmares, Benllech, Betws, Cerrigydrudion, Yr Waun, Corwen, Harlech, Caergybi, Johnstown, Llangefni, Llangollen, Llanrwst, Porthmadog, Prestatyn, Pwllheli, y Rhyl, Rhuthun, Llanelwy, Tywyn, a Wrecsam.”

 

Edrychwch ar ein fideos yn hyrwyddo Recriwtio RDS sydd ar gael ar YouTube yma ac ewch i’r wefan neu cysylltwch â HRDesk@nwales-fireservice.org.uk / 01745 535281 i gael rhagor o wybodaeth.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen