Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân bwriadol yn Yr Hob

Postiwyd

Mae apêl yn cael ei gwneud yn dilyn tân bwriadol ar fynydd yr Hob, wedi i griwiau ddelio â thân gwair ac eithin yno.

 

Galwyd criwiau o Wrecsam, yr Wyddgrug, Glannau Dyfrdwy a Llangollen i dân ar Fynydd yr Hob, yr Hob, ger Wrecsam neithiwr (nos Iau Mai 17) am 20.09 o’r gloch.

 

Roedd y tân yn effeithio 8000 medr sgwâr o eithin a rhedyn.

 

Ystyrir bod y tân wedi ei gynnau yn fwriadol.

 

Meddai Tim Owen, Rheolwr Lleihau Tanau Bwriadol: “Mae’r math hwn o ymddygiad anghyfrifol yn gwbl annerbyniol, ac roedd yn ffodus iawn na chafodd neb ei anafu.

 

“Mae tanau bwriadol yn fath difrifol o ymddygiad gwrth-gymdeithasol gyda chanlyniadau a allai fod yn angheuol ac rydym yn gweithio’n agos gyda’r Heddlu i adnabod y sawl sy’n gyfrifol.

 

“Rydym yn annog unrhyw un gyda gwybodaeth am danau bwriadol i ffonio 101, neu Crimestoppers yn ddi-enw ar 0800 555 111.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen