Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cyflwyno elw’r arddangosfa dân gwyllt i elusennau

Postiwyd

Daeth elusennau lleol at ei gilydd yng Ngorsaf Dân Glannau Dyfrdwy i dderbyn cyfanswm o £5,600, y swm a godwyd yn ystod yr arddangosfa dân gwyllt flynyddol ar y 5ed o Dachwedd 2017.

Fe dderbyniodd yr elusennau canlynol gyfran o'r arian:

DAFFODILS, Eye 2 Eye, Clwb Dydd Gwener Plymouth Street ,Grŵp Brodwaith Shotton, Cymdeithas Gymunedol Shotton, Clwb dros 50 Ewlo , Cymdeithas Tenantiaid Manley Court, Ambiwlans St John, Mental Health UK, Ysgol Pen Coch, CAB Sir y Fflint, Roundtable Glannau Dyfrdwy, Congenital Diaphragmatic Hernia (CDH UK), Hawarden Lodge 6140 ac Elusen y Diffoddwyr Tân.

Roedd Simon Smith, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn bresennol i gyflwyno'r sieciau i gynrychiolwyr o'r gwahanol elusennau.

Meddai Ian Werner, Rheolwr Gwylfa o Lannau Dyfrdwy ac un o drefnwyr y noson:

"Daeth llawer o bobl i gefnogi'r noson eleni a hoffwn ddiolch i bawb a'm cefnogodd a'i gwneud hi'n bosib i ni gyfrannu arian i'r elusennau haeddiannol hyn.

"Roedd yn bleser gweld yr elusennau'n derbyn y sieciau gan Simon Smith, ein Prif Swyddog Tân. Hoffwn ddiolch  i'r holl gynrychiolwyr am ddod i dderbyn y rhoddion.

 “Hoffwn hefyd ddiolch i bawb wnath helpu gyda threfnu’r digwyddiad ac yn ystod yr arddangosfa, yn enwedig Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir Y Fflint. Rydym yn falch ein bod yn gweithio gyda thrigolion Gogledd Cymru i’w cadw mor ddiogel ac sydd bosib, ac mae cael gweld yr arian yn mynd un ôl i mewn i’r gymuned yn gwneud yr holl waith caled yn werth chweil.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen