Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Uned cadetiaid yn symud o Fiwmares i Borthaethwy

Postiwyd

Bydd uned Cadetiaid Tân Biwmares yn adleoli i Borthaethwy fis nesaf.

 

Mae’r Cadetiaid Tân cenedlaethol yn sefydliad addysgol i bobl ifanc sydd yn cael ei redeg gan y Gwasanaeth Tân ac Achub mewn partneriaeth â Chyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân.

 

Nod y cynllun yw creu cymunedau mwy diogel a chadarn trwy ddatblygu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth yr unigolyn o’i gymuned a gwella sgiliau dinasyddiaeth.

 

Cynhaliwyd yr ymarfer olaf yng Ngorsaf Dân Biwmares yn gynharach yn y mis, a chafodd y cadetiaid a’u rhieni gyfle i ddiolch yn arbennig i’r Rheolwr Gwylfa Charles Brimecombe sydd wedi bod yn rhan ganolog o’r cynllun ers ei lansio ar yr orsaf 8 mlynedd yn ôl.

 

Mae Neil Upton, Rheolwr Gwylfa, Diogelwch Tân, yn egluro: " "Trwy’r uned Cadetiaid Tân, mae Charles wedi helpu i ddylanwadu ar fywydau cymaint o bobl ifanc a’u datblygu i fod yn oedolion llwyddiannus trwy roi sgiliau bywyd, hyder a chyfleoedd dysgu iddynt

 

"Roedd y cadetiaid eisiau diolch i Charles am ei waith caled a’i ymroddiad ac roeddent yn awyddus i’w anrhydeddu yn ystod y noson ymarfer olaf."

 

Dyma oedd gan Charles i’w ddweud ar ôl y noson ymarfer olaf ym Miwmares ar yr 20fed o Fawrth: "Mae'n meddwl y byd i mi fod y cadetiaid eisiau diolch i mi yn y modd hwn - mae gweithio gyda'r bobl ifanc yma wedi bod yn gymaint o ysbrydoliaeth i mi. Rydw i wedi mwynhau gweithio gyda'r cadetiaid yma- mae wedi bod yn bleser eu gweld nhw'n mynd ymlaen i ddatblygu eu bywydau a'u gyrfaoedd ar ôl cael sylfaen dda fel cadetiaid.  Byddaf yn cadw mewn cysylltiad ac rwyf yn siŵr y bydd y gangen yn llewyrchus yn ei lleoliad newydd ym Mhorthaethwy." 

Bydd yr uned Cadetiaid Tân ym Mhorthaethwy yn cyfarfod am y tro cyntaf Ddydd Mawrth y 10fed o Ebrill, a bydd y criw ar yr orsaf yn gweithio gyda’r cadetiaid ifanc yn ystod eu cyfarfodydd wythnosol.

 

Fe ychwanegodd Gwyn Williams, Rheolwr Gwylfa yng Ngorsaf Dân Porthaethwy: "Rydym yn edrych ymlaen at gael croesawu’r cadetiaid i Orsaf Dân Porthaethwy.  Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan yn y dasg o amddiffyn ein cymunedau a datblygu sgiliau personol megis sgiliau arweinyddiaeth, dysgu i weithio fel tîm a magu hyder, ac ennill cymwysterau ar yr un pryd.”

 

Mae’r rhaglen cadetiaid tân yn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 11 a 18 ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol megis BTEC Lefel 2 ym maes Gwasanaethau Tân ac Achub yn y Gymuned a thystysgrifau cyrhaeddiad galwedigaethol mewn sawl maes.

 

Mae’r bobl ifanc yn dysgu nifer o sgiliau gan gynnwys gweithio fel tîm, datrys problemau a chyfathrebu ochr yn ochr â sgiliau bywyd i wella eu cyflogadwyedd.

 

Mae 8 uned yng Ngogledd Cymru, sef:

  • Amlwch
  • Porthaethwy
  • Y Waun
  • Conwy
  • Llanfairfechan
  • Prestatyn
  • Pwllheli
  • Rhuthun

 

Mae’r cadetiaid yn cwrdd unwaith yr wythnos ar ddiwrnod gwaith yn eu gorsaf dân leol.

 

Am ragor o wybodaeth ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch e-bost i nationalfirecadets@gwastan-gogcymru.org.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen