Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Atgoffa pobl i ‘Fynd allan, Aros allan a’n Galw ni allan’ yn dilyn tân yn Nhrefnant

Postiwyd

Mae Uwch Swyddog Tân yn atgoffa trigolion ynglŷn â phwysigrwydd dianc o dân yn gyflym a pheidio â mynd yn ôl i mewn i adeilad sydd ar dân wedi i ddynes ddianc yn ddianaf o dân difrifol yn ei chartref yn Nhrefnant ddoe.

Cafodd criwiau o Ddinbych, Rhuthun a’r Rhyl eu galw i’r eiddo yn Ffordd Cae Canol, Trefnant, ger Dinbych ddoe am 16.51 o’r gloch y prynhawn.

Fe achosodd y tân ddifrod sylweddol i’r eiddo ac mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.

Meddai Justin Evans, Pennaeth Diogelwch Cymunedol o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “ Y cyngor gorau y gallwn ni ei roi i drigolion mewn achos o dân ydi ewch allan, arhoswch allan a galwch ni allan – peidiwch â cheisio taclo’r tân eich hun.

“Mae’n bwysig amlygu sut y gall y camau y mae trigolion yn eu cymryd ar ôl ddarganfod tân olygu’r gwahaniaeth rhwng byw neu farw – unwaith y daeth y ddynes yn ymwybodol o’r tân, fe aeth allan ar unwaith a ffonio 999.  Er bod hwn yn dân difrifol, llwyddodd i ddianc yn ddianaf. 

“Ein cyngor ni ydi byddwch mor barod â phosibl rhag tân, trwy sicrhau bod gennych larymau mwg gweithredol ar bob llawr yn eich cartref er mwyn i chi gael rhybudd cynnar o dân a sicrhewch fod gennych lwybrau dianc clir er mwyn i chi a’ch teulu gael eu defnyddio i fynd allan cyn gyflymed â phosibl.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen