Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ein gwaith gyda phobl ifanc

Os ydym am leihau nifer y bobl sy'n cael eu hanafu neu eu lladd o ganlyniad i dân, mae'n rhaid i ni wneud mwy na darparu gwasanaethau brys effeithiol Rhaid addysgu er mwyn atal y math o ymddygiad sy'n arwain at gynnau tanau yn y lle cyntaf. Nid oes unrhyw un ohonom yn rhy hen i ddysgu'r gwersi diogelwch pwysig hyn, ond, drwy dargedu ein plant a phobl ifanc, gallwn sicrhau eu bod yn meithrin ymddygiad a fydd yn sicrhau eu bod nhw a'n cymunedau yn fwy diogel drwy gydol eu hoes. Mae gan ein Gwasanaeth Tân ac Achub ni ran bwysig i'w chwarae o safbwynt lles ein plant a'n pobl ifanc drwy eu haddysgu am bwysigrwydd diogelwch tân a goblygiadau cynnau tanau bwriadol a gwneud galwadau ffug i'r gwasanaethau brys.
 
Gallwch ddarllen mwy am y gwaith yr ydym yn ei wneud i ymgysylltu ag ysgolion a darparu cynlluniau ymyrraeth ieuenctid drwy glicio ar y ddewislen ar ochr chwith y dudalen hon.
 
Wrth ddilyn y ddolen isod  gallwch hefyd ddysgu mwy am 'Strategaeth yr Awdurdodau Tân ac Achub ar gyfer Plant a Phobl Ifanc' sydd yn amlinellu gweledigaeth a chyfeiriad Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru ar gyfer darparu gweithgareddau ymyrraeth i Blant a Phobl Ifanc. Bydd y gweithgareddau hyn yn helpu plant a phobl ifanc i fod yn iach, aros yn ddiogel, mwynhau a chyflawni, gwneud cyfraniad cadarnhaol a sicrhau lles economaidd, gan roi'r sylw dyledus i faterion sy'n gysylltiedig ag ethnigrwydd, anabledd a rhyw.

Strategaeth yr Awdurdodau Tân ac Achub ar gyfer Plant a Phobl Ifanc

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen