Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Pam Fod yn Rhaid i Mi Gael Asesiad Risg?

Pryd mae angen i mi gael asesiad risgiau?

Mae'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn berthnasol i fwy neu lai pob adeilad, strwythur a man agored.

Er enghraifft, mae'n berthnasol i:-

- Swyddfeydd a siopau
- Safleoedd sy'n darpau gofal, gan gynnwys cartref gofal ac ysbytai
- Neuaddau cymunedol, mannau o addoliad a safleoedd cymunedol eraill
- Yr ardaloedd cyffredin mewn eiddo lle mae llawer o wahanol aelwydydd yn byw (gall y ddeddfwriaeth tai fod yn berthnasol yn yr achosion hyn hefyd)
- Tafarndai, clybiau a thai bwyta
- Ysgolion a chanolfannau chwaraeon
- Pebyll a marquees
- Gwestai (gan gynnwys gwestai bychain a thai gwely a brecwast bychain) a hosteli
- Ffatrïoedd a warysau

Nid yw'r ddeddfwriaeth yn berthnasol i gartrefi preifat, gan gynnwys fflatiau unigol mewn bloc neu dŷ.

Mae angen gwneud asesiad risgiau ymhob safle lle mae'r ddeddfwriaeth yn berthnasol.

Ar ôl gwneud yr asesiad risgiau, rhaid cofnodi'r canfyddiadau arwyddocaol (gan gynnwys y mesurau a gymerwyd neu a gymerir) yn yr amgylchiadau canlynol:-

- Pan fo'r safle yn weithle ac yn cyflogi pum neu'n rhagor o weithwyr
- Pan fo gan y safle drwydded (dan ddeddfiad) mewn grym - e.e. Trwydded Safle dan y Ddeddf Trwyddedu 2003
- Os rhoddwyd Hysbysiad Addasiadau ar y safle dan y ddeddfwriaeth

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen