Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cadw'n ddiogel yn y cartref

Cadw'n ddiogel yn y cartref

Sicrhewch fod gennych larymau mwg sy'n gweithio

Mae'r mwyafrif o danau yn y cartref yn cychwyn yn ddamweiniol - a gall yr effeithiau fod yn ddinistriol. Mae larymau mwg yn darparu rhybudd cynnar sy'n caniatáu amser hanfodol ichi ddianc. Maen nhw wir yn achub bywydau.

Gallwch ein ffonio ar 0800 169 1234 i gofrestru i gael gwiriad diogel ac iach - mwy o wybodaeth yma

Defnyddiwch y gwiriad diogelwch yma cyn mynd i'r gwely i helpu i atal tân yn eich cartref

Rydych dair gwaith yn fwy tebygol o gael eich lladd mewn tân sy'n cynnau gyda'r nos.

  • Diffoddwch bob cyfarpar a thynnwch y plwg.  (Ar wahân i'r cyfarpar sydd wedi cael eu dylunio i aros ymlaen am gyfnod hir - er enghraifft, oergelloedd, rhewgelloedd a chlociau radio.)
  • Gwnewch yn siwr eich bod wedi diffodd y popty a'r hob
  • Peidiwch â gadael eich peiriant golchi, sychwr dillad neu beiriant golchi llestri ymlaen dros nos (gallant achosi tân oherwydd eu motorau, eu bod yn defnyddio watedd uwch,  ac yn golchi â ffrithiant)
  • Diffoddwch wresogyddion nwy a thrydan a rhowch gard o flaen tanau agored
  • Gwnewch yn siwr eich bod wedi diffodd pob cannwyll. Gwiriwch fod canhwyllau wedi diffodd cyn gadael ystafell, a pheidiwch byth â gadael un heb neb yn cadw golwg arni
    .
  • Gwnewch yn siwr eich bod wedi diffodd eich sigarét, sigâr neu'ch cetyn yn llwyr cyn i chi fynd i'r gwely, a pheidiwch byth ag ysmygu yn y gwely.  Gallwch bendwmpian a rhoi'ch gwely ar dân.
  • Caewch y drysau. Drwy gau drysau, gallwch chi ddiogelu eich llwybr dianc rhag tân. Mae hyn yn hynod bwysig os nad oes modd i chi ddianc drwy ffenestr e.e. os ydych yn byw mewn fflat uchel.
  • Diffoddwch eich blanced drydan (oni bai bod ganddi thermostat  a'i bod wedi ei chynllunio i gael ei gadael ymlaen dros nos).
  • Cyn prynu dillad nos ewch i  www.dti.gov.uk am arweiniad i labeli dillad.  Os yw'r label ar y dilledyn yn dweud 'fflamadwyedd isel' gall olygu nad ydyw wedi ei ddiogelu rhag tân.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich llwybr dianc yn glir heb ddim yn ei rhwystro, a gwnewch yn siŵr ei bod yn hawdd cyrraedd ffenestri a chael gafael ar allweddi

Mae yna lawer o gyngor ar sut i gadw'n ddiogel yn y cartref ar ein gwefan yma - dilynwch ein cyngor ar goginio'n ddiogel, diogelwch e-sigaréts, diogelwch trydanol, diogelwch gyda chyffuriau ac alcohol.

Cliciwch isod i weld clipiau fideo byr ar gyfer sut i gadw'n ddiogel yn eich cartref

http://youtu.be/pqdgt7nTcMw

http://youtu.be/YC5FN9mN7pY

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen