Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Conwy

Gorsaf Dân Conwy
Ffordd Bangor Conwy
Conwy
LL32 8DS

Ffôn: 01745 535250

Manylion y Criw:

Mae Gorsaf Dân Conwyyn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.

Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod  y dydd ac/neu ar benwythnosau.

Yr Ardal ddaearyddol a Wasanaethir:

Conwy a phentrefi cyfagos.

Safleoedd o Risg:

Safle cadw silindrau nwy, nifer o adeiladau hanesyddol a'r A55 a'i thwneli.

 
Hanes yr Orsaf:

Adeiladwyd yr orsaf yn 1970 ac fe roedd yn wreiddiol yn rhan o Frigad Dân Gwynedd, yn newid i Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn 1996.

 

Gwaith yn y gymuned:

Mae criw Conwy yn cymryd rhan yn yr olchfa geir flynyddol i godi arian i Elusen y Diffoddwyr Tân.  Maent hefyd yn ymweld ag ysgolion lleol ac yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau i godi arian at achosion da.  

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen