Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Amlwch

Gorsaf Dân Amlwch

 

Cyfeiriad:

Stryd Bethesda

Amlwch

Ynys Môn

LL68 9AU

 

Ffôn: 01745 535250

Manylion Criw:

Mae Gorsaf Dân Amlwch yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.

Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod  y dydd ac/neu ar benwythnosau.

 

Yr ardal ddaearyddol a wasanaethir:

Amlwch i Lanfaethlu (hanner ffordd tuag at Caergybi) ar hyd yr arfordir tuag at Dinas Dulas ac yna tuag at Benllech ac oddeutu 7 milltir tuag at  Llannerchymedd.

 

Safleoedd o risg:

Gorsaf Bwer Niwcliar Wylfa

Rehau Plastics

Mynydd Parys  (hen gloddfa gopr)

Cartrefi preswyl a gwestai

 

Hanes yr orsaf:

Mae cofnodion yn dyddio yn ôl i 1948 pan roedd yr Orsaf Dân wedi ei lleoli mewn sied/garej ar Lôn Goch, Amlwch. Fe adeiladwyd syr orsaf bresennol ym 1954 - fodd bynnag codwyd estyniad yng nghanol y saithdegau i ddarparu gwasanaeth i danciau olew  cwmni Shell a ddaeth i Amlwch bryd hynny.  

 

Gwaith yn y gymuned:

Mae criw Amlwch yn cefnogi'r gymuned leol drwy gymryd rhan mewn carnifalau ac ymweld ag ysgolion.  Maent hefyd yn cynnal golchfeydd ceir yn rheolaidd i godi arian at Elusen y Diffoddwyr Tân.

Mae Diffoddwyr Tân Ifanc Amlwch yn cyfarfod yn yr orsaf bob nos Lun a defnyddir yr orsaf ar gyfer cyrsiau'r Ffenics.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen