Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Abergele

Gorsaf Dân Abergele

Cyfeiriad: Abergele

Groes Lwyd
Abergele
Conwy
LL22 7TA

Ffôn: 01745 535250

Manylion y criw:

Mae Gorsaf Dân Abergele yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.

Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod  y dydd ac/neu ar benwythnosau.



Yr Ardal Ddaearyddol a Wasanaethir:

O Abergele i Dywyn hyd at Landdulas a Rhyd-y-foel. Ac yna tua , Llansan-Siôr, Moelfre, Llanfair Talhaearn a Llansannan.

 

Safleoedd o Risg:

Ysbyty'r Frest, Fflatiau Penysarn a Neuadd Cinmel.


 

Hanes yr Orsaf:

Sefydlwyd yr orsaf fel brigâd dân drefol ym 1901 gan Gyngor Dosbarth Abergele. Defnyddiwyd ceffylau a chyfarpar pwmp â llaw yr adeg honno. Cafodd ei hailenwi yn 1909 yn Frigâd Dân Abergele a Phensarn. Daeth yn rhan o'r Gwasanaeth Tân Cenedlaethol ym 1941, a daeth yn rhan o Wasanaeth Tân ar y cyd rhwng Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn ym 1948. Roedd yr orsaf yn rhan o Wasanaeth Tân Clwyd ym 1974, cyn uno â Brigâd Gogledd Cymru ym 1996.

Roedd yr orsaf wreiddiol ym Mharc Pentre Mawr, Abergele, ac fe agorwyd yr orsaf bresennol y mis Medi  1971.

 

Gwaith yn y Gymuned:

Mae Gorsaf Dân Abergele yn cynnal golchfa geir flynyddol i godi arian i Elusen y Diffoddwyr Tân, ac adeg y Nadolig maent yn darparu basgedi bwyd i'r holl ddiffoddwyr tân rhan amser yn yr ardal.

Yn y 1990au  cynnar, llwyddodd yr orsaf i godi miloedd o bunnoedd drwy gymryd rhan mewn diwrnod dringo ysgol noddedig a drefnwyd gan Eddie Watt, cyn ddiffoddwr tân.  Defnyddiwyd yr arian a godwyd i dalu am driniaeth yn America i blentyn lleol a oedd yn dioddef  o gancr. Mae'r plentyn hwnnw yn dal i fod yn fyw ac yn iach heddiw.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen