
Swyddi
-
Uwch Ymgynghorydd Adnoddau Dynol
Postiwyd - 21 Chwefror 2019 13:03 Dyddiad Cau - 07 Mawrth 2019 12:00Rydym yn recriwtio ar gyfer Uwch Ymgynghorydd Adnoddau Dynol. Cliciwch ar yr eiconau isod i weld yr Hysbyseb llawn, Disgrifiad Swydd, Gofynion Person a’r Pecyn Cais. DYDDIAD CAU HANNER DYDD 07.03.2019.
-
Y Pwyllgor Safonau - Aelod Annibynnol
Postiwyd - 08 Chwefror 2019 10:58 Dyddiad Cau - 01 Mawrth 2019 09:00Swydd Wag - Aelod Annibynnol
Annibynnol? Safonau Uchel?
Oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn safonau ym mywyd cyhoeddus a dymuniad i wasanaethu’r gymuned leol a chynnal democratiaeth leol?
Mae gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru swydd wag ar gyfer aelod annibynnol i wasanaethu ar ei Bwyllgor Safonau.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9am, 1 Mawrth 2019
-
Diffoddwr Tân System Dyletswydd Rhan Amser
Postiwyd - 10 Awst 2017 17:00 Dyddiad Cau - 10 Awst 2019 17:00Nid oes gan y Gwasanaeth restr sefydlog o orsafoedd tân sy’n recriwtio ar y pryd gan y bydd hyn yn newid trwy gydol y cyfnod cofrestru agored.
Yn ystod y cyfnod cofrestru agored, bydd y Gwasanaeth yn arolygu’n rheolaidd lefelau staff ac argaeledd criwiau ei 44 gorsaf dân o gymharu ag anghenion y Gwasanaeth a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae’r broses arolygu reolaidd hon yno i sicrhau ein bod yn recriwtio’r bobl iawn, i’r lleoedd iawn, ar yr adegau iawn.
Fe’ch gwahoddir i gofrestru eich diddordeb yn y broses recriwtio ar gyfer unrhyw un o’n 44 gorsaf dân nawr, ac unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd y Gwasanaeth yn cadw mewn cysylltiad â chi ac y rhoi diweddiaradau rheolaidd ar y broses o recriwtio Diffoddwyr Tân Rhan Amser.
Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.