Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Prentisiaeth Technegydd Cerbydau

CADWCH LYGAD AR EIN ADRAN SWYDDI GWAG DIWEDDARAF AM CYFLEOEDD PRENTISIAETHAU

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig Prentisiaeth Technegydd Cerbydau gyda’r Adran Fflyd.

Yn ystod rhaglen pedair blynedd, bydd y prentis yn datblygu’n bersonol ac yn datblygu gyrfa trwy weithio tuag at ennill cymhwyster achrededig mewn Atgyweirio a Chynnal a Chadw Cerbydau Modur, Prentisiaeth Uwch Lefel 4.

Mae’r Adran Fflyd yn gyfrifol am wasanaethu, atgyweirio a chynnal a chadw cerbydau, peiriannau ac offer, ac mae’n cynnwys tîm o dechnegwyr proffesiynol aml-sgil.

Mae’r Technegwyr Cerbydau dan Brentisiaeth yn aelodau pwysig o dîm y Fflyd, ac maent yn cefnogi’r tîm i ddarparu gwasanaeth effeithiol trwy gynnal safonau perfformiad uchel a thrwy gyfrannu tuag at gyfrifoldebau’r adran o ddydd i ddydd.

Cymwyseddau a sgiliau i'w harddangos:

Sgiliau TGCh hyfedr
Trwydded yrru lawn a glân
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig
Cymraeg Lefel 2 Siarad a Gwrando - Mynnir eich bod yn gallu deall hanfodion sgwrs yn y gweithle. Ymateb i ofynion syml yn ymwneud â’r swydd a cheisiadau am wybodaeth ffeithiol. Gofyn cwestiynau syml a deall ymatebiadau syml. Mynegi rhywfaint o’ch barn cyn belled bod y pwnc yn gyfarwydd. Deall cyfarwyddiadau pan ddefnyddir iaith syml.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen